PORTFFOLIO PROSIECT
Adolygiad Strategol
Cynnal cyfres o ddigwyddiadau deuddydd preswyl blynyddol ar gyfer y tîmau rheoli corfforaetholau ar gyfer arweinydd cyngor dinas. Heriau, dadansoddi senario, strategaeth integredig.
Hyfforddi uwch dîm
Hyfforddi Penaethiaid Gwasanaeth newydd eu penodi mewn cyrff cyhoeddus a’u cefnogi yn eu gwaith o ddatblygu rhaglen arweinyddiaeth a oedd yn rhan o'u cynllun rheoli talent. Bu datblygiad personol, rheolath twf a newid wrth wraidd y gwaith hwn.
Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth
Cynllunio, rheoli a chyflwyno cyrsiau arweinyddiaeth 18-mis mewn Ysgol Fusnes flaenllaw. Roedd hyn yn cynnwys datblygu tîm, datrys-problemau yn greadigol, deallusrwydd emosiynol ac arferion adlewyrchiol
DatblyguTîm
Gweithio dros 6 mis gyda'r tîmau cyllid i gryfhau meysydd gwaith tîm a datblygu tîm. 'Roedd rhan o'r broses yn eu cynorthwyo i adnabod ffactorau sy'n cyfyngu a gwella gwahanol feysydd.
Creadigrwydd a Rheolaeth ar Ddyfeisgarwch
Dyma gyrsiau a oedd yn canolbwyntio ar wella creadigrwydd ym mhob maes gwaith, ynghyd ag egwyddorion, cymhwyso'r syniadau newydd a gwireddu eu manteision. Gweithiodd y cyfranogwyr mewn ffyrdd ymarferol iawn ar y materion hyn.
Hyfforddi Pontio ar gyfer swyddogaethau newydd.
Cynllunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddiant o dri mis sy'n cynyddu trawsnewidiadau llwyddiannus i lefelau newydd o weithredu a chyfrifoldeb, er enghraifft i lefel cyfarwyddwr gyda ffocws mwy corfforaethol.
Hyfforddi Arweinyddiaeth
Gweithio gyda'r prifathro newydd ei benodi o ysgol uwchradd mewn ardal anodd ac ail fagu hyder a chymhelliant y staff addysgol, a thrwy hynny sicrhau gwelliant sylweddol iawn i safonau a chanlyniadau.
Creu Tîm newydd ar ôl i’r Rheolwr blaenorol brynu’r cwmni.
Cefnogi Prif Weithredwr i gwmni buddsoddi a chydweithio gyda'i dîm newydd. Golygodd y broses ei hyfforddi i ddewis y bobl, gan weithio gydag aelodau'r tîm fel unigolion, a chynnal cyfres o ddigwyddiadau tîm i adeiladu eu gallu i weithio gyda'i gilydd ac i ganolbwyntio ar y cyd ar flaenoriaethau allweddol.
Rheoli Pobl Greadigol
Cyfres o raglenni preswyl ar gyfer rheolwyr ymchwil a datblygu a rheolwyr datblygu meddalwedd a oedd yn ymdrin â'u hanghenion o ran rheoli timau o staff hynod greadigol a llawn cymhelliant.
Digwyddiadau Partneriaeth
Dwy gynhadledd cysylltiedig â’i gilydd ac sy’n rhyngweithiol iawn yn y sector iechyd sy’n cynnwys cleifion, gofalwyr, staff clinigol, ymchwilwyr ac addysgwyr yn ffurfio ffyrdd newydd o weithio gyda'i gilydd ar faterion allweddol wrth weithio mewn partneriaeth.
Gwaith traws-dîmol
Daeth y digwyddiad datblygu undydd hwn â’r hanner cant o bobl ynghyd, oedd yn ffurfio’r pum tîm sy'n cymryd rhan yn y gwahanol agweddau ar driniaeth ac ymchwil i glefyd dirywiol y cyhyrau. Y diben oedd I archwilio’r synergedd rhwng y gwahanol ddisgyblaethau a’u cymhwyso i waith beunyddiol a chyd-gefnogaeth.
Rheoli Straen ar gyfer Rheolwyr
Cyfres o ddigwyddiadau hyfforddi undydd ar gyfer staff rheoli yn y gwasanaeth iechyd sy'n canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i adnabod a delio â'r broblem straen ymysg y gweithlu. 'Roedd yn cynnwys asesu effaith eu dull rheoli eu hunain.
Rheoli Straen a Newid
Gweithio’n ddwys ag uwch reolwyr banciau’r stryd-fawr i ymateb yn greadigol i gyfnod annisgwyl o newid sydyn, ailstrwythuro newid ac ansicrwydd.
Hyfforddi a Gwerthuso 360
Hyfforddi helaeth dros nifer o flynyddoedd ar lefelau academaidd a gweinyddol uwch. Mae hyn yn cynnwys materion arweinyddiaeth, rheoli gwahanol berthyn gwaith rheoli, meddwl yn fwy strategol, meithrin hyder a chydweithio rhyng-adrannol.